Safbwyntiau gwahanol, penderfyniadau ar y cyd

  • Dyddiad: Mai 2020
  • Awdur: Caroline Hagerman

Dyma fersiwn cymraeg o flog sydd hefyd ar gael yn saesneg yma.

Ers canol 2019, mae Concentric Health wedi bod yn cydweithio â ATiC, canolfan ymchwil ac arloesi. Yma ma’ Caroline Hagerman yn trafod yr hyn a ddysgwyd drwy gyfweliadau â chleifion a chlinigwyr am y broses o wneud penderfyniadau ynglun a gofal iechyd. Mae cipolygon o’r ymchwil yn llywio sut bydd Concentric yn datblygu dros y misoedd i ddod.

Dychmygwch eich bod yn disgwyl ymgynghoriad â llawfeddyg cyn hir. Mae’n debygol eich bod ond yn gwybod ychydig am eich opsiynau, and efallai yn ansicr ynghylch beth yw’r opsiwn gorau i chi. Yn ychwanegol, fwy na thebyg eich bod yn ansicr am sut brofiad fydd y llawdriniaeth, a beth i’w ddisgwyl wrth i chi wella. Beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn ystod eich ymgynghoriad?

Mae’n debygol y byddech chi am i’r llawfeddyg wneud i chi deimlo’n gyfforddus, dangos diddordeb ynoch chi fel unigolyn ac ystyried beth sydd orau i chi. Byddai’r llawfeddyg yn trafod yr opsiynau’n ofalus, gan eich helpu i’w hystyried yng nghyd-destun eich bywyd. Yn ddelfrydol, byddech chi’n cael sgwrs gyfforddus, y ddwy ochr yn gofyn cwestiynau, ac efallai hyd yn oed yn rhannu jôc. Erbyn diwedd yr ymgynghoriad, byddech yn teimlo eich bod yn deall yr opsiynau ac yn gyfforddus i ddysgu rhagor a myfyrio dros y diwrnodau neu’r wythnosau i ddod.

Heriau, ar y ddwy ochr

Daeth i’r amlwg yn gyflym, o sgyrsiau â chleifion a chlinigwyr, mai prin iawn yw ymgynghoriadau delfrydol fel yr un a ddisgrifir uchod. Siaradodd y ddau grŵp yn frwdfrydig am yr heriau i gyflawni’r delfryd hwn. Roedd rhai yn heriau a rennir, tra’r oedd eraill yn amlwg i un grŵp yn unig.

Dewch i ni ddechrau trwy ystyried yr ymgynghoriad o safbwynt y claf. Yn aml, bydd cyfyngiad amser ar ymgynghoriadau, cyfyngiad sy’n golygu bod clinigwyr yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth allweddol, a phrin yw’r cyfleoedd, gan amlaf, i ystyried a myfyrio ar y cyd. I rai cleifion, gall hyn deimlo fel nad yw’r clinigwr yn eu hystyried fel unigolyn nac yn poeni’n benodol am eu hanghenion, eu teimladau, na’u blaenoriaethau. Er bod hyn bron yn sicr o fod yn bell o’r gwir, mae’r system yn aml yn arwain at yr argraff yma. Yr ail her i gleifion yw’r diffyg cymorth rhwng ymgynghoriadau a chyn cael llawdriniaeth. Dywedodd y cleifion nad oeddent yn teimlo bod y system yn eu helpu i ddeall y daith, gofyn cwestiynau a myfyrio y tu allan i’w ymgynghoriadau.

Siaradodd clinigwyr am yr her o ennyn diddordeb cleifion yn y broses o wneud penderfyniadau. Fe wnaethant gydnabod y byddant yn aml yn ei chael hi’n anodd rhannu’r wybodaeth briodol - ar y lefel briodol - â chleifion unigol. Gwelsom ymatebion gwahanol iawn i’r problemau yma. Dywedodd rhai ei bod yn treulio amser ychwanegol i drafod yn ofalus â’r claf a cheisio deall eu hanghenion a’u hagweddau. Cyfaddefodd eraill eu bod yn derbyn y ffaith nad oedd rhai cleifion yn ymddiddori mewn deall y daith lawfeddygol, ac o ganlyniad, ‘da nhw ddim yn ymdrechu i’r un raddau ag y bydden nhw wedi’i wneud yn y gorffenol. Fe wnaeth yr holl glinigwyr fynegi edifeirwch nad oeddent yn cael y sgyrsiau delfrydol hyn â’u cleifion, gan wybod bod hyn yn medru arwain at ganlyniadau gwaeth a risg gyfreithiol.

I grynhoi, fe wnaethom ni ddysgu bod ffactorau’r system – ychydig iawn o apwyntiadau a diffyg amser, diffyg gwybodaeth wedi’i theilwra a diffyg adnoddau cymorth – yn cael ei dehongli mewn ffordd wahanol gan gleifion a chlinigwyr. Er gwaethaf ymdrechion clinigwyr i helpu pob claf i gael y canlyniad gorau posib, gall cleifion deimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso ac yn debycach i rif nag unigolyn. Mae’n glir bod angen gwneud llawer iawn rhagor er mwyn goresgyn y rhwystrau rhwng cleifion a chlinigwyr.

Myfyrio a chymorth

Fel cleifion, yn aml mae angen amser, lle a chymorth arnom i gonsidro ein hopsiynau, a deall eu heffeithiau tebygol ar ein bywydau. Yn hanfodol, gellir cynnig y cymorth hwn trwy amrywiaeth o ddulliau, a bydd cyfuniadau gwahanol yn addas i wahanol bobl. Gall sgyrsiau o safon, fel y sgwrs ddelfrydol a ddisgrifiwyd yn gynharach, dawelu meddwl a chynnig arweiniad. Roedd sgyrsiau ag eraill a oedd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg - opsiwn nad oedd ar gael gan amlaf i’r bobl yn ein carfan - yn werthfawr ac yn sbardun myfyrio. Mae amser a lle, wedi’u cyfuno â’r adnoddau i ddysgu rhagor a myfyrio, yn lleihau’r tebygolrwydd o brofi digwyddiadau annisgwyl - ac ymdeimlad o gael ein camarwain - wrth i ni wella.

O gipolygon i effeithiau

Mae cipolygon o’n cyfweliadau’n llywio sut bydd Concentric yn datblygu dros y misoedd i ddod. Mae’r cyfweliadau hyn wedi dangos cyfle clir i ni helpu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng clinigwyr a chleifion. Rydym ni’n datblygu modd i helpu cleifion i gael y wybodaeth briodol am eu gofal, gofyn cwestiynau, cael amrywiaeth ehangach o safbwyntiau, a myfyrio ar yr hyn sydd i ddod. Ein nod yw bod y dechnoleg yn hwyluso perthnasoedd gwell rhwng cleifion a chlinigwyr - nid wal dechnoleg rhwng y ddau, ond yn hytrach, lle a rennir i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth, i dysgu ac i fyfyrio.

Cydnabyddiaethau

Mae’r gwaith cydweithredol rhwng Concentric Health ac ATiC yn cael ei gynnal fel rhan o raglen Accelerate. Mae Accelerate wedi’i gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy law Llywodraeth Cymru.